UWB Crest

Well MI Study

Croeso i wefan project Well i mi

Teitl yr Astudiaeth

Lles, iechyd a ffitrwydd plant gydag anawsterau symud (Well i mi); Cynllunio a datblygu ymyriadau 'cadw'n heini' sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac wedi'u haddasu ar gyfer unigolion 

Mother and daughter having fun exercising at home

Mam a merch yn cael hwyl wrth ymarfer yn y cartref

poster Well MILlwythwch y poster Well i Mi i lawr

Mae’r cyfnod recriwtio wedi dod di ben. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl blant, pobl ifanc a’u teuluoedd am gymryd rhan yn yr Astudiaeth well i mi.

Rhestr o gydweithredwyr

Prif Ymchwilydd: Dr Thomas D. O’Brien

Prif ymchwilwyr ar y cyd: Yr Athro Jane Noyes

Swyddog Ymchwil: Dr Llinos Haf Spencer

Technegydd Ymchwil:  Mr Matthew Jackson

Cyd-ymgeiswyr eraill:

Partneriaid y Project

Members of the ‘Children and young people with disabilities and their families, health and wellbeing research group’

Rhai o aelodau’r grŵp ymchwil iechyd a lles plant a phobl ifanc gydag anableddau a’u teuluoedd, Prifysgol Bangor.
Yn y llun o’r chwith i'r dde: Dr Sonia Khoury, Liz Halstead, Dr Thomas O’Brien, Julie Sutton, Nathan Bray, Sally Rees, yr Athro Richard Hastings, Aaron Pritchard.
Tynnwyd y llun yn y digwyddiad  'Believe in Better Square' a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2012 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.


Crynodeb o'r astudiaeth Well i mi:

Yn nodweddiadol nid yw plant gydag anawsterau symud yn gwneud llawer o weithgarwch ac maent yn fwy tebygol o fod yn ordew a datblygu diabetes math 2 a chlefyd cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach mewn bywyd. O ganlyniad, mae eu lles yn gostwng ac mae'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu.  Byddai datblygu ymyriadau i dargedu iechyd a ffitrwydd yn gwella lles ac annibyniaeth yn sylweddol, ac yn sefydlu dulliau iach o fyw erbyn y byddant yn oedolion. Bydd y buddion tymor hir yn debygol o gynnwys iechyd meddwl a chymysgu â phobl eraill, yn ogystal ag iechyd corfforol.

Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod llawer am iechyd a ffitrwydd plant gydag anawsterau symud. Bydd yr astudiaeth yma yn dangos barn ac anghenion plant i ddatblygu ymyriadau cadw'n heini llawn hwyl sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac wedi eu haddasu ar gyfer unigolion er mwyn gwella lles, iechyd a ffitrwydd plant gydag anawsterau symud.

Defnyddir cyfweliadau i nodi canlyniadau pwysig i blant gydag anawsterau symud a'u teuluoedd, datblygu dulliau asesu ac edrych ar hoff ddulliau o ymarfer e.e. symbyliad, lleoliad, hyd, yn unigol neu mewn grŵp, cerddoriaeth. Yna, cesglir y data dechreuol ac edrychir ar achosion unigol neu rhai sy'n benodol i gyflwr er mwyn datblygu gweithgareddau llawn hwyl sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Bydd pob cam ar yr astudiaeth hon yn cael ei gynghori a'i arwain gan wybodaeth a sylwadau gan blant gydag anawsterau symud a'u rhieni a'u gofalwyr.

Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd protocol am gynllun peilot i dreialu'r ymyriadau sydd wedi'u haddasu ar gyfer unigolion ac asesu eu heffeithiolrwydd o ran cost yn cael ei gynllunio. 

Teenager exercising in the garden

Merch yn ymarfer yn yr ardd

Logos of the Well Mi collaborators